Dafydd Iwan
Fe fydd ffilm arbennig yn cael ei dangos ar S4C heno yn edrych yn ôl ar yrfa Dafydd Iwan ar ôl iddo droi’n 70 oed.

Fe fydd y portread yn ei ddilyn wrth iddo deithio Cymru benbaladr, i neuaddau pentref a chapeli, ac yn treulio amser gydag ef yn ei gartref ar gyrion Caernarfon. Bydd hefyd yn clywed ei atgofion a’i deimladau – yn cofio’r dyddiau da, a’r dyddiau du.

“Ro’n i’n gweithio yng Nglan Llyn fel gwas bach yn y gegin ac yn teimlo’r angen yma i gael rhywbeth i berfformio a dyma rywun yn dweud, wel, trïa gitâr, dim ond tri chord ti isio a ti’n iawn.

“A dyna be wnes i, a ffeindio bod llawer iawn o ganeuon allwch chi wneud efo tri chord!” meddai’r canwr sy’n enwog am ei ganeuon cenedlaetholgar.

Y da a’r drwg

Fe ddaw’r direidus a’r digalon i’r wyneb yn y ffilm, wrth i’r gŵr a gafodd ei fagu ym Mrynaman cyn symud i Lanuwchllyn edrych yn ôl dros ei amser; ei fywyd teuluol, ei frwydro diflino dros Gymru a’r iaith Gymraeg, ei fywyd heddiw a’r hyn sydd eto i ddod.

“Ro’n i yn dod yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1968, y flwyddyn wnes i briodi, y flwyddyn wnes i raddio, yng nghanol ymgyrch yr arwyddion – yr ymgyrch fwya’ cyhoeddus wnaethon ni erioed – ac roedd yr Arwisgo yng nghanol hyn i gyd.

“Ro ni yng nghanol y sylw a doedd o ddim yn sylw braf bob amser.”

Ar y ffilm bydd Dafydd yn rhannu rhai atgofion poenus o’r cyfnod hwn, a’r cyfnod pan ddaeth ei briodas gyntaf i ben.

“Dw i wedi gorfod sylweddoli bod yna bobl eraill heblaw fi, ac mae yna adegau pan ’da chi’n gorfod cilio oddi ar y llwyfan.”

Ond er bod cyfnodau cymylog wedi bod yn ystod y daith, mae mor o atgofion hapus gan y gŵr 70 oed hefyd sydd yn parhau i deithio ledled Cymru heddiw gan bregethu, rhannu ei gariad am Gymru a chanu, er bod ambell un yn meddwl ei bod hi’n amser iddo arafu.

Dafydd Iwan, Nos Iau, Rhagfyr 26, 9.00yh ar S4C