Un o'r eliffantod yn ystod y ffilmio yn Nhregaron dros yr haf (llun: S4C)
Dywed S4C eu bod nhw wedi sicrhau pob gofal i’r eliffantod sy’n chwarae rhan yn eu ffilm Nadolig.

Roedden nhw’n ymateb i alwad gan fudiad hawliau anifeiliaid a oedd yn galw am foicot o raglenni’r sianel dros y Nadolig.

Roedd y mudiad Animal Defenders International wedi cwyno am y defnydd o ddau eliffant yn y ffilm ‘Y Syrcas’ a fydd yn cael ei darlledu ddiwrnod ar ôl y Nadolig.  Roedd yr eliffantod wedi cael eu cludo o’r Almaen ar gyfer ffilmio’r rhaglen yn ardal Tregaron yn ystod yr haf.

‘Cyngor arbenigol’

Meddai llefarydd ar ran S4C:

“Yn unol â gofynion S4C, fe gafwyd cyngor arbenigol er mwyn diogelu lles yr eliffantod.

“Y cyngor a gafwyd oedd bod eliffantod yn anifeiliaid haid a chanddynt natur gymdeithasol a’u bod yn fwy dedwydd yng nghwmni eliffantod eraill. Dyna pam y cytunodd y cynhyrchwyr i ddod draw â phâr o eliffantod am y cyfnod ffilmio, er mai dim ond un oedd ei angen mewn gwirionedd.

“Yn ystod yr holl gyfnod y bu’r eliffantod o dan ofal y tîm cynhyrchu, roedd milfeddyg sŵolegol yn bresennol hefyd i fonitro lles yr anifeiliaid ac i gynnig cyngor parod gydol yr amser.

“Ar ôl derbyn pob sicrwydd gan y cwmni cynhyrchu, gall S4C fod yn gwbl hyderus bod lles yr eliffantod wedi cael blaenoriaeth yn ystod cyfnod ffilmio’r cynhyrchiad arbennig iawn hwn.”