Pont Hafren
Mae rhybuddion llifogydd mewn grym ledled Cymru wrth i’r glaw trwm barhau drwy’r nos.

Mae’r rhain yn cynnwys naw o rybuddion ‘coch’, a 39 o rybuddion ‘melyn’ – sef rhai llai difrifol.

Yr ardaloedd lle mae’r rhybuddion coch mewn grym yw:

  • Ardal llanw Abertystwyth a Bae Clarach
  • Afon Wysg yng Nghrughywel, Brynbuga ac o Glangrwyne i Bontnewydd ar Wysg
  • Afon Tywi yn Abergwili
  • Afon Mynwy yn Osbaston
  • Gwaelodion afon Dyfrdwy islaw Llangollen
  • Afonydd Mawddach ac Wnion a thref Dolgellau

Mae disgwyl y bydd teithwyr yn wynebu anawsterau drwy’r dydd heddiw, ac roedd Pont Hafren yr M48 wedi cau y bore yma, er bod pont yr M4 yn dal yn agored.