Cyw a'i ffrindiau
Ni fydd hysbysebion yn cael eu darlledu ar S4C yn ystod rhaglenni plant Cyw a Stwnsh yn y flwyddyn newydd.

Daw’r penderfyniad bron i dair blynedd wedi i’r Sianel gael ei beirniadu am ddechrau dangos hysbysebion yn ystod rhaglenni Cyw.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Lanelli ar y pryd, Helen Mary Jones, fod hysbysebion sy’n targedu plant bach yn “broblem” ac yn gallu achosi poen meddwl i rieni – yn “arbennig mewn teuluoedd tlawd”.

Cafwyd beirniadaeth gan Plant yng Nghymru hefyd, gydag Eleri Griffiths o’r sefydliad yn dweud ei fod yn “fater o egwyddor” na ddylid hysbysebu i blant o dan 7 oed.

Plant yn troi i ffwrdd

Yn ôl y Sianel roedd plant yn troi oddi wrth S4C oherwydd yr hysbysebion.

“Fe fyddwn ni’n dod â hysbysebion i ben yn ystod oriau plant y Sianel.  Mae hyn mewn ymateb i adborth rhieni sy’n dweud eu bod yn gwneud i blant droi at sianeli eraill,”  meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones.

“Rydym ni am fod ar flaen y gad a cheisio torri tir newydd a chael hyd i ffyrdd a fydd yn sefydlogi incwm hysbysebu at y dyfodol,” ychwanegodd