Neges 'H' ar twitter
Mae’r canwr pop o Gymru, Ian H Watkins, wedi gorfod cwyno et oar ôl i wefan newyddion arall ei gamgymryd am y pedoffil Ian Watkins o’r Lostprophets.

O fewn oriau i ennill ymddiheuriad mewn llys, mae ‘H’ wedi cwyno ar y wefan twitter ar ôl i wasanaeth newyddion CBS gyhoeddi ei lun ef yn hytrach na’r canwr arall.

Mae cyn ganwr y band Steps yn galw ar CBS i sortio’r peth gan ddweud ei fod wedi ei frifo’n ddrwg gan y digwyddiad.

Ymddiheuriad

Ddoe fe fu’n rhaid i wefan newyddion arall ymddiheuro iddo yn yr Uchel Lys am wneud yr un peth yn fuan ar ôl i ganwr y Lostprophets gael ei ffeindio’n euog o gam-drin plant yn rhywiol.

Roedd yr achos diweddara’ ar ôl i’r canwr gael carchar am 35 mlynedd am y troseddau.

Mae’r ddau ganwr yn dod o Gymoedd y De.