Dr Prysor Williams
Arwel Prysor Williams, 32, mab fferm o Bandy Tudur ger Llanrwst, Sir Conwy yw Llywydd newydd Urdd Gobaith Cymru.
Mae’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor – yn arbenigo mewn Rheolaeth Amgylcheddol – a bydd yn y swydd am flwyddyn.
Mae’n llais cyfarwydd ar donfeddi’r radio fel arbenigwr ym maes E.Coli a Gwyddorau’r Amgylchedd, a chaiff ei adnabod fel Dr Prysor Williams.
Dywedodd: “Mae hi’n fraint fawr cael fy ethol yn Llywydd mudiad cenedlaethol ieuenctid Cymru.
“Ces dipyn o fraw wrth dderbyn yr alwad ffôn, ond mae fy nyled i i’r Urdd yn fawr ac mae hi’n anrhydedd o’r mwyaf cael rhoi rhywbeth yn ôl i’r mudiad sy’n cynnig cymaint i ieuenctid Cymru.
“Ar drothwy blwyddyn newydd, dwi’n edrych ymlaen gydag awch i ymroi i’r gwaith o genhadu a gweithio dros Urdd Gobaith Cymru.”
‘Teulu mawr’
Mae hefyd yn arwain Aelwyd Bro Cernyw ac yn cynorthwyo ei rieni gartref ar y fferm ym Mhant Manus, Pandy Tudur yn ei amser rhydd.
“Mae’r profiadau dwi wedi eu hennill o fod yn aelod o’r mudiad yn ddi-ben-draw. Ar lwyfan, mewn cwis; yng nghanol y mwd ar gae pêl droed; wrth actio, dawnsio neu chwarae’r ffŵl mewn cân actol – mae’r Urdd yn cynnig mwy na dim ond hwyl.
“Mae bod yn aelod yn golygu eich bod yn perthyn i deulu mawr ledled Cymru ac mae hynny’n aros efo chi weddill eich oes,” meddai.
Cafodd ei ethol yng nghyfarfod diwethaf Cyngor yr Urdd, dydd Sadwrn 30 Tachwedd, yn Llangrannog. Y ddau is-lywydd a gafodd eu penodi yw Rhun Dafydd a Dafydd Vaughan.