DCI Tom Mathias (Richard Harrington)yn Y Gwyll
Bydd pennod gyntaf drama Hinterland – fersiwn Saesneg Y Gwyll – yn cael ei darlledu ar nos Sadwrn 4 Ionawr, gan gynnwys deialog Gymraeg yn ogystal.

Cafodd pedair pennod y gyfres dditectif, sydd wedi cael ei glustnodi ar gyfer prif safle yn yr amserlen, am 9.30yh ar BBC One Wales, eu ffilmio gyda’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr, gydag S4C yn darlledu’r olaf o benodau Y Gwyll  fis diwethaf.

Canolbwynt y gyfres yw DCI Tom Mathias, sy’n cael ei chwarae gan Richard Harrington, wrth iddo yntau a’i dîm o dditectifs – DI Mared Rhys (Mali Harries), DC Lloyd Elis (Alex Harries) a DC Siân Owens (Hannah Daniel) – geisio datrys llofruddiaethau yn yr ardal wledig o gwmpas tref Aberystwyth.

Wrth wneud hynny, maen nhw’n dod ar draws cymeriadau cymhleth a hanesion tywyll yr ardal, ac mae Mathias hefyd yn delio gyda’i fwganod personol ei hun.

Mae’r BBC nawr wedi cadarnhau y bydd deialog yn Gymraeg a Saesneg i gael yn Hinterland, gydag isdeitlau ar gyfer yr elfennau Cymraeg – a’r gorfforaeth yn dweud mai hon fydd y tro cyntaf i’r ddwy iaith “chwarae rhan flaenllaw mewn cyfres ddrama” ganddyn nhw.

Mae Y Gwyll a Richard Harrington eisoes wedi denu sylw mawr a chanmoliaeth uchel am ei naws dywyll, golygfeydd trawiadol a’r straeon bachog – gan gynnwys adolygiadau ffafriol gan rai o flogwyr golwg360.

Mae’r BBC ac S4C hefyd wedi cyhoeddi ers llwyddiant fersiwn Gymraeg y gyfres gyntaf eu bod eisoes wedi dechrau gwaith ar yr ail gyfres, gan obeithio y bydd yn barod erbyn yr hydref nesaf.

‘Naturiol’

Dywedodd Adrian Davies, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cyfrwng Saesneg BBC Wales, fod ardal Aberystwyth a gorllewin Cymru, ble mae Y Gwyll / Hinterland wedi’i leoli, yn “ardal ble mae’r sgwrs ddyddiol yn medru mynd o Gymraeg i’r Saesneg ac yn ôl eto”, a bod y gyfres “yn dal hyn yn naturiol”.

Ym mis Ebrill fe ddywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies, wrth yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd fod angen i BBC One Wales a BBC Two Wales adlewyrchu bywyd a diwylliant yr iaith Gymraeg yn well.

Yn ôl cynhyrchydd y gyfres Ed Thomas, bydd DCI Mathias yn Hinterland yn ddi-Gymraeg, ond fe fydd llawer o’r cymeriadau eraill yn medru’r iaith.

“Yn Hinterland, dyw Mathias ddim yn siarad Cymraeg,” esboniodd Ed Thomas. “Ond mae’r rhan fwyaf o’r cymeriadau eraill y down ni ar eu traws yn siarad yr iaith. Mae’r deialog felly’n adlewyrchu’r ffordd naturiol mae pobl yn addasu’i hiaith i siwtio’r sefyllfa y maen nhw’n canfod eu hunain.”

Bydd pennod gyntaf y gyfres Hinterland ar BBC One Wales am 9.30yh nos Sadwrn 4 Ionawr 2014.