Rheilffordd drydan (Hellbus CCA 3.0)
Cymysg yw’r ymateb i’r cyhoeddiad am drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i dde Cymru – croeso i’r ffaith y bydd yn cyrraedd Caerdydd, siom nad aiff ymhellach.
Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y byddan nhw’n gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i ystyried trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.
“Rydan ni’n croesawu’r trydaneiddio tan Gaerdydd ac rydan ni’n hapus bod Llywodraeth San Steffan yn cydnabod cryfder yr achos o blaid trydaneiddio rheilffordd y Cymoedd,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn Weinidog tros yr Economi a Thrafnidiaeth.
“Fe fydd yr economi a’r amgylchedd yn elwa o’r cyhoeddiad yma. Ond rydan ni wedi bod yn galw am drydaneiddio’r rheilffordd hyd at Abertawe a dw i’n siomedig nad ydi hynny am ddigwydd eto.
“Rydan ni am weld y budd i’r economi yn cyrraedd pob rhan o Gymru, ac fe fydd y penderfyniad hwn yn niweidiol i dde orllewin Cymru. Rydan ni am i Gymru gael yr un manteision cystadleuol â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”
Dadlau am y clod
Mae dwy blaid y Llywodraeth yn Llundain wedi hawlio’r clod, gyda Roger Williams AS y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed yn hawlio bod y penderfyniad yn arwydd o ddylanwad ei blaid ef yn y glymblaid yn San Steffan.
Ond roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne, yn mynnu mai nhw oedd yn gyfrifol wrth lobïo ar y cyd gydag Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Roedd yn condemnio’r Blaid Lafur am fethu â gwneud dim am 13 o flynyddoedd pan oedd hi’n Llywodraeth.
‘Hwb economaidd’ – Cyngor Caerdydd
“Fe fydd trydaneiddio yn cwtogi 20 munud oddi ar y daith o Gaerdydd i Lundain ac yn hwb economaidd i dde Cymru,” meddai Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Rodney Berman.
Ac fe ddywedodd bod trydaneiddio hyd at Gaerdydd yn gam ymlaen i weddill de Cymru hefyd, er na fydd yn mynd ymhellach ar hyn o bryd.
“Rwy’n deall y bydd rhai yn siomedig ond mae’n gam gyntaf cadarnhaol er mwyn sicrhau bod rheilffyrdd sy’n gweddu i’r 21ain Ganrif yn y de ddwyrain.”
‘Neges anghywir’ – Peter Black
Er bod Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi croesawu’r newyddion roedd yr AC o Abertawe, Peter Black, yn feirniadol.
“Mae’n siomedig na fyddwn ni’n elwa yn llawn,” meddai. “Mae’r penderfyniad yma’n anfon y neges anghywir i bobol sydd am fuddsoddi yn economi de-orllwein Cymru.
“Ond mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod hi’n bosib y bydd trydaneiddio pellach hyd at Abertawe ac rwy’n croesawu hynny.”
‘Gwastraffus’ – y Blaid Werdd
“Mae’r penderfyniad yma yn afresymegol,” meddai Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Jake Griffiths. “Fe fyddai trydaneiddio llawn rhwng Abertawe a Llundain wedi helpu economi Cymru ac wedi bod yn hwb i’r rhanbarth wrth iddo gystadlu â rheilffyrdd cyflym yn Lloegr,” meddai.
“Fe allai trydaneiddio rhannol orfodi’r llywodraeth i wastraffu miliynau ar drenau sy’n gallu rhedeg ar ddisel yn ogystal â thrydan. Mae’r penderfyniad yn un gwastraffus i’r economi a’r amgylchedd.”