Anthony O’Sullivan
Roedd Cyngor Sir Caerffili wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth ganiatáu hawliau lwfans ceir a gwyliau ychwanegol i uwch swyddogion, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).
Dyma’r ail waith i adroddiad gyhuddo’r cyngor a’r prif weithredwr Anthony O’Sullivan o weithredu’n anghyfreithlon. Roedd Anthony O’Sullivan hefyd wedi rhoi codiad cyflog sylweddol iddo’i hun ac uwch reolwyr y cyngor.
Fe fydd yn clywed fis nesaf a fydd yn wynebu cyhuddiadau troseddol yn ymwneud a’r helynt.
Yn ôl SAC nid oedd unrhyw gynghorwyr yn gysylltiedig â’r penderfyniad i wneud y taliadau o tua £218,000.
Roedd SAC hefyd yn feirniadol o’r ffaith nad oedd unrhyw gofnodion swyddogol o sut y cafodd y penderfyniad ei wneud ac nad oedd cofnod o wrthdaro buddiannau yn achosion y swyddogion wnaeth y penderfyniad.
Hefyd ni chafodd penderfyniad y grŵp i brynu lwfansau ei gyhoeddi, sydd yn mynd yn groes i gyfansoddiad y cyngor. Roedd y ffactorau hynny’n golygu bod y penderfyniad a’r taliadau’n anghyfreithlon meddai’r archwilydd, Anthony Barrett.
Dywedodd Anthony Barrett bod y ffactorau hyn i gyd yn “destun pryder sylweddol” a bod angen i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi digwydd.
Mae gan y cyngor tan fis nesaf i ymateb i’r adroddiad.
Dywedodd Prif Weithredwr dros dro’r Cyngor Stuart Rosser y bydd y cyngor yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn cyfarfod ym mis Ionawr i drafod unrhyw gamau pellach.