Mae’r pedwar rhanbarth rygbi yng Nghymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r ffordd mae refeniw o gystadlaethau a ffioedd darlledu yn cael ei ddosbarthu gan Undeb Rygbi Cymru i’r gêm broffesiynol yng Nghymru.
Fe wnaeth yr Undeb a’r rhanbarthau – sy’n cynnwys Gleision Caerdydd, Dreigiau Gwent, Y Gweilch a’r Scarlets – gyfarfod wythnos diwethaf i drafod sawl peth gan gynnwys cyllid, cynghrair Eingl-Gymraeg a sut mae cadw chwaraewyr gorau Cymru yng Nghymru.
Mae gan ranbarthau Cymru tan ddiwedd y mis i arwyddo cytundeb newydd gyda’r undeb neu wynebu colli cyllid ganddyn nhw.
Arian
Problem fwyaf y rhanbarthau yw arian ac mewn datganiad ar y cyd a gafodd ei gyhoeddi neithiwr, maen nhw’n galw am ymchwiliad cyhoeddus oherwydd eu bod nhw’n poeni bod clybiau rygbi’r Alban, er enghraifft, yn derbyn bron i 1.5 miliwn ewro’n fwy na nhw pob blwyddyn er eu bod nhw’n cystadlu yn yr un gystadleuaeth Ewropeaidd.
Dyna pam bod y rhanbarthau wedi bod yn edrych ar adael y gystadleuaeth Ewropeaidd, y Cwpan Heineken, a sefydlu Cwpan Eingl-Gymraeg newydd gyda thimau o Loegr.
Fe all y rhanbarthau geisio hawl cyfreithiol i wneud hynny os nad fydd yr anghydfod gyda’r Undeb yn cael ei ddatrys.
Meddai’r datganiad ar ran y rhanbarthau: “Sut allwn ni gywiro hyn wrth symud yn ein blaen fel bod gan y rhanbarthau’r adnoddau i gadw a thyfu’r gronfa o chwaraewyr proffesiynol Cymraeg sy’n gwasanaethu yn y gêm broffesiynol ac ar ran tîm cenedlaethol Cymru.”