Norwich 1–1 Abertawe
Rhannodd Norwich ac Abertawe’r pwyntiau ar Carrow Road brynhawn Sul yn dilyn gêm gyfartal, gôl yr un yn yr Uwch Gynghrair.
Rhoddodd Nathan Dyer yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen yn gynnar ond unionodd Gary Hooper bethau toc cyn yr egwyl ac felly yr arhosodd pethau tan y diwedd.
Deuddeg munud oedd ar y cloc pan fanteisiodd Nathan Dyer ar gamgymeriad Sebastian Bassong i agor y sgorio i Abertawe.
Fe adawodd yr asgellwr y cae wedi hynny gydag anaf gwael ac roedd Norwich yn gyfartal o fewn munud diolch i gôl wych.
Hooper oedd sgoriwr y gôl honno ac allai Michel Vorm yn y gôl wneud dim byd i atal foli’r ymosodwr o bum llath ar hugain.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi yn yr ail gyfnod ond tarodd peniad Michael Turner yn erbyn y trawst i Norwich a chafodd Jonjo Shelvey ei atal yn y pen arall gan John Ruddy.
Mae’r pwynt yn cadw Abertawe yn y degfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Norwich
Tîm: Ruddy, Whittaker, Olsson, Howson, Turner, Bassong, Redmond (Murphy 83′), Johnson, Elmander (Becchio 76′), Hooper, Fer
Gôl: Hooper 45’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Shelvey, Amat, Williams, Dyer (Pozuelo 44′), Cañas, Michu (Bony 75′), De Guzmán, Hernández (Lamah 83′)
Gôl: Dyer 12’
Cardiau Melyn: Cañas 55’, Vorm 62’, Rangel 64’
.
Torf: 26,876