Port Talbot 1 Caerfyrddin 1
Fe gollodd Caerfyrddin ddau bwynt yn y ras i wneud yn hollol siŵr o le yn chwech ucha’ Uwch Gynghrair Cymru, er iddyn nhw ddod yn agos at ennill yn y munudau ola’.
Roedden nhw wedi mynd ar y blaen ar ôl llai na chwarter awr trwy gôl gan Chris Doidge ac wedi llwyddo i gadw eu mantais am 40 munud.
Ond lai na deg munud i mewn i’r ail hanner, fe sgoriodd Rhys Griffiths i Port Talbot, sydd yn ail o’r gwaelod – fe gafodd ei gic o’r smotyn ei harbed ond ef oedd gynta’ at y bêl rydd.
Ar ddiwedd gêm drafferthus, gyda thrafferthion llifoleuadau, fe drawodd Caerfyrddin y postyn ond mae’r canlyniad yn golygu eu bod wedi cwympo i’r pedwerydd safle.
Y cystadleuwyr yn ennill
Jyst i lawr y ffordd, wnaeth Airbus ddim llithro yn erbyn Afan Lido gan ennill 2-0 i aros yn yr ail safle ac fe gododd Y Drenewydd uwchben Caerfyrddin trwy ennill 2-0 yn Y Rhyl.
Y Seintiau Newydd sydd ar y brig o hyd ar ôl eu buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Aberystwyth nos Wener.