Nalaga - sgoriwr dau gais (Zegreg63 CCA 3.0)
Scarlets 13 Clermont Auvergne 31
Fe gafodd y Scarlets eu chwalu yn ail hanner eu gêm dyngedfennol yng Nghwpan Heineken.
Er eu bod wedi troi bwynt ar y blaen, roedd pethau’n edrych yn fygythiol, gyda’r gwynt yn erbyn y Cymry a phac Clermont wedi rhoi pwysau mawr arnyn nhw o’r dechrau.
Fe lwyddon nhw i wrthsefyll y pwysau am ugain munud, cyn i’r llifddorau agor gyda chais cosb ac wedyn dau gais arall yn y pedwerydd chwarter.
Fe fethodd y Scarlets â sgorio na chael yr un cyfle am bwyntiau yn yr ail hanner ac fe aeth nifer o benderfyniadau yn eu herbyn hefyd.
Yr hanner cynta’
Roedd y dechrau’n drychinebus i’r Scarlets wrth iddyn nhw fethu â chasglu’r gic gynta’ – fa eth i ddwylo mewnwr Clermont, Thierry Lacrampe, ac yntau’n cicio’n syth i ddwylo’r asgellwr Naipolioni Nalaga a hwnnw’n sgorio ar ôl llai na hanner munud.
Fe gafodd y Scarlets dri phwynt yn ôl trwy gic gosb gan y maswr, Priestland, pan gafodd capten Clermont y garden felen.
Yna fe ddaeth y cais – Priestland yn torri o’i 22, y canolwr Scott Williams yn bylchu’n wych ac yn rhoi Gareth Maul trwodd i sgorio … a Priestland yn trosi.
Ar ôl cic gosb arall gan Priestland, fe gafodd Clermont hefyd dri phwynt gyda chic ola’r hanner.
Yr ail hanner
Er bod y gwynt wedi gostegu rhywfaint, dim ond un tîm oedd ynddi ac fe ddaeth y cais cosb ar ôl 60 munud ar ôl cyfres o droseddau mewn sgrymiau.
Roedd yna amheuaeth am drydydd cais Clermont gyda’r Ffrancod eu hunain fel petaen nhw’n meddwl nad oedd yn ddilys.
Ond fe orffennodd y gêm fel y dechreuodd hi gyda chais arall i Nalaga a phob un yn cael eu trosi.