Jay Harris - carden goch (o wefan y clwb)
Luton 2 Wrecsam 0
Fe gafodd Wrecsam, y deiliaid, eu taro allan o Dlws yr FA ar ôl colli’n haeddiannol yn erbyn tîm ifanc iawn Luton.
Roedd yr Hatters wedi gwneud deg newid yn eu tîm i groesawu’r Dreigiau ar gyfer y gêm yn yr ail rownd ond fe reolon nhw’r gêm o’r dechrau.
Fe aeth Luton ar y blaen ar ôl 14 munud ac fe ddaeth yr ail gôl – trwy ei rwyd ei hun an Neil Ashton – gyda dim ond chwarter awr yn weddill.
Roedd y chwaraewr canol cae, Jay Harris, wedi cael ei anfon o’r cae am ddwy garden felen.