Fe fydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn cynnal rhagor o streiciau yn ymwneud a’r ffrae dros bensiynau dros y penwythnos.
Bydd aelodau o Undeb y Frigâd Dân (FBU) yn cerdded allan o’u gwaith am bedair awr ar 13 a 14 Rhagfyr – y pumed streic ers mis Medi.
Mae’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “anwybyddu” eu pryderon am y cynnydd mewn cyfraniadau sy’n golygu y bydd diffoddwyr tân yn gorfod talu miloedd yn ychwanegol i’w pensiynau.
Rhagrith
“Mewn wythnos ble mae manylion o godiad cyflog o £7,600 i ASau wedi eu datgelu – a fydd yn cynyddu eu pensiynau – bydd y diffoddwyr tân hyd yn oed yn fwy anfodlon gyda’r Llywodraeth,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb, Mark Wrack.
“Mae’n gwbl ragrithiol” meddai.
Mae’r rhan fwyaf o ddiffoddwyr tan yn cael cyflog o £1,650 y mis ac yn talu £320 neu fwy y mis tuag at eu pensiwn.
O fis Ebrill 2014, bydd hyn yn cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol, i £340 y mis (£4,000 y flwyddyn).