Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i farwolaeth bachgen 14 oed yn Ysgol Gyfun Penfro prynhawn ma.

Does dim rhagor o fanylion ynglŷn ag amgylchiadau ei farwolaeth ond mae’r heddlu wedi disgrifo ei farwolaeth fel un “trasig”.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod teulu’r bachgen wedi cael gwybod a bod y crwner wedi’i hysbysu.

Ychwanegodd y llefarydd bod swyddogion cyswllt ysgolion yr heddlu yn gweithio gyda’r ysgol er mwyn sicrhau lles gweddill y disgyblion.