Mae cwest i farwolaeth bachgen 2 oed o Froncysyllte ger Llangollen, a gafodd ei ddarganfod mewn pwll, wedi cael ei agor a’i ohirio.
Cafwyd hyd i gorff Harvey Lee Williams mewn pwll yng ngardd ei gymydog ddydd Llun yn fuan ar ôl i’w fam ffonio’r heddlu i ddweud ei fod ar goll.
Clywodd y cwest bod partner ei fam wedi ceisio ei achub cyn i’r parafeddygon gyrraedd. Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ond er gwaetha ymdrechion staff meddygol i’w achub bu farw’n ddiweddarach.
Roedd archwiliad post-mortem yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl wedi dangos bod Harvey Williams wedi boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio tan y Gwanwyn gan Grwner y Gogledd-Ddwyrain John Gittins.