Mae ansawdd gwasanaethau trên ar ei waethaf yng Nghymru yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r adroddiad, a wnaed ar ran yr elusen Ymgyrch dros Well Cludiant (CBT), yn cymharu ansawdd gwasanaethau trên ledled Prydain ac mae’n dweud fod “gwahaniaethau enfawr” rhyngddyn nhw.

Yr Alban, Llundain, de ddwyrain Lloegr, gogledd orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr yw’r llefydd sy’n cynnig y gwasanaethau gorau.

Ond mae pobol yng Nghymru, dwyrain Lloegr a de ddwyrain Lloegr yn llawer llai bodlon pan maen nhw’n defnyddio trenau.

Cyfrifoldeb i weinyddwyr lleol?

Dywed yr adroddiad fod gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu defnyddio llai nag mewn ardaloedd eraill ac yn anoddach i’r cyhoedd eu cyrraedd. Ac mae prif weithredwr CBT yn credu y byddai rhoi cyfrifoldeb i weinyddwyr lleol yn datrys y broblem.

“Mae canlyniadau’r adroddiad yn awgrymu mai rhoi cyfrifoldeb i weinyddwyr lleol dros y gwasanaethau rheilffyrdd yw’r ateb,” meddai Stephen Joseph.

“Wrth wneud hyn, fe allwn ni wneud defnydd o wybodaeth leol a thargedu buddsoddiad er mwyn cael y gorau o’r gwasanaethau”.

Ychwanegodd arweinydd undeb trafnidiaeth RMT, Bob Crow: “Mae’r adroddiad yn dangos fod rheilffyrdd Prydain yn cael trafferth ymdopi hefo’r diffyg buddsoddi a moderneiddio.

“Mae oedi a thoriadau i gynhaliaeth yn gadael y gwasanaeth mewn peryg ac nid yw hi’n synod fod defnyddwyr yn flin am eu bod yn gorfod talu’r prisiau uchaf yn Ewrop.”