Maes Awyr Caerdydd (llun Wikipedi
Mae nam technegol mewn canolfan reoli trafnidiaeth yr awyr wedi achosi gohirio teithiau i mewn ac allan o feysydd awyr yng Nghymru, Lloegr a’r Iwerddon.

Mae’r ganolfan yn Swanwick yn Hampshire yn cael trafferthion technegol wrth geisio newid o weithredu yn ystod y nos i weithredu yn ystod y dydd, gan effeithio waethaf ar feysydd awyr Caerdydd, Heathrow, Gatwick, Stanstead a Dulyn.

Mae’r sgîl effeithiau hefyd yn amharu ar deithiau o Fanceinion, Southampton, Birmingham a Dinas Llundain ac mae’r awdurdodau ym mhob maes awyr yn annog teithwyr i gysylltu efo’u cwmni awyrennau am y sefyllfa ddiweddaraf.