LLifogydd yn y Rhyl (llun PA)
Mae’r gwaith o glirio a chyfrif cost y storm achosodd y tonnau a’r llanw uchaf ers dros 60 mlynedd wedi cychwyn ar hyd arfordir y gogledd.

Fe wnaeth dwr lifo i mewn i gannoedd o dai yn ystod y storm dydd Iau ac mae nifer o ffyrdd a rhannau o reilffordd yr arfordir yn dal ar gau oherwydd difrod.

Fydd yna ddim trenau rhwng Rhyl a Chaer tan o leiaf dydd Mawrth oherwydd difrod i’r wal lifogydd ger Mostyn.

Bydd trenau yn teithio bob awr nôl a ‘mlaen rhwng Rhyl a Chaergybi a bysus wedyn yn cludo’r teithwyr yn eu blaenau o’r Rhyl.

Fydd yna ddim gwasanaeth chwaith rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog tan diwedd yr wythnos yn ôl Trenau Arriva Cymru.

Cyngor ag ymchwiliad

Tref y Rhyl ddioddefodd waethaf oherwydd y storm wrth i gannoedd o dai ddiodde llifogydd a rhagor fod heb drydan.

Bydd canolfan wybodaeth yn yr orsaf dân leol yn parhau ar agor dros y Sul er mwyn rhoi cyngor i bobl ar faterion tai a llês a bydd gwirfoddolwyr o’r Groes Goch yno hefyd.

Mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies wedi dweud bod angen deall beth achosodd i’r prif amddifynfeydd rhag y môr wedi cael eu chwalu yno gan ganiatau wedyn i’r tonnau dorri trwy’r ail amddifynfeydd.

“Mae’n rhaid i ni ddeal beth yn union ddigwyddodd er mwyn i ni allu buddsoddi rhagor mewn amddfiynfeydd yma neu yn rhywle arall a buddosddi mewn dulliau sy’n diogelu pobl.”

Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans wedi ategu y bydd ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn cael ei gynnal.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhif ffôn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth sef 03003300101 a’r rhif ar gyfer pobl sydd wedi cael eu effeithio yn y Rhyl ydi 01824 706101.