“Peidiwch disgwyl i mi ddiolch

Am i chi beintio ein cadwynau ni yn aur,”

Mae’r cadwynau’n dal yn dyn am ein traed.

Ond mi ganwn gân o obaith drwy ein dagrau,

A gwyddwn daw Mandela yn rhydd”  meddai Dafydd Iwan yn ei gân am Nelson Mandela.

Yn dilyn marwolaeth cyn Arlywydd De Affrica neithiwr, mae Dafydd Iwan wedi dweud na “welwn ni byth mo’i debyg eto”.

Ysgrifennodd Dafydd Iwan ‘Cân Mandela’ yng nghanol y 1980au, gan ei fod yntau yn cymryd rhan mewn ymgyrch gwrth-apartheid ar y pryd.

“Dw i wedi sgwennu am nifer o ffigyrau amlwg sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig, ond Mandela oedd yr amlycaf ohonyn nhw,” meddai Dafydd Iwan.

“Roedd o’n sefyll allan fel dyn a oedd yn credu mewn cymod i ddatrys sefyllfa – mae gen i edmygedd di-ben-draw tuag ato.

“Fe wnaeth Mandela drechu drwy gymod yn hytrach na thrais.”

Gwersi i Gymru

Yn ôl Dafydd Iwan, roedd Mandela yn ymwybodol o’r gefnogaeth gwrth-apartheid o Gymru pan ddaeth i ymweld â Chaerdydd. Mae’n dweud fod gan Gymru wersi i’w dysgu ganddo:

“Wrth i ni gael mwy o hunan lywodraeth, mae’n bwysig i ni ddysgu o sut roedd Mandela yn delio hefo materion.

“Mae’n rhaid i ni dorri’r muriau hefo gelynion a dysgu i gydweithio.”