Yr Albion (O wefan y dafarn)
Mae tafarn unigryw yng ngogledd Cymru wedi ennill dwy o brif wobrau CAMRA, y mudiad cwrw go iawn.

Ac, yn ôl un o’r partneriaid, mae’n glod i’r syniad o gael tafarn go iawn sy’n canolbwyntio ar y pethau pwysig ac yn rhoi croeso i bawb.

Yr Albion Alehouse yng Nghonwy yw’r unig dafarn i ennill dwy o’r gwobrau – gwobr am gadwraeth yr adeilad ac am y dafarn cornel stryd orau.

Partneriaeth 4

Dim ond ers ychydig tros flwyddyn a hanner y mae’r dafarn, sydd ag adeilad art deco o’r 1930au, yn nwylo’i pherchnogion presennol – partneriaeth unigryw o bedwar bragdy bach lleol.

“Rydan ni wrth ein boddau,” meddai Jonathan Hughes, cyfarwyddwr un o’r pedwar, bragdy Great Orme. “Dyma’r tro cynta’ i bedwar bragdy wedi gweithio gyda’i gilydd fel hyn.”

Y cwrw, y staff a’u sylw i fanylion, a’r adeilad ei hun – dyna oedd allwedd llwyddiant y dafarn, meddai wrth Golwg360.

Dim cerddoriaeth, teledu, darts na pŵl!

Ond mae’r dafarn yn wahanol mewn ffyrdd eraill hefyd – wrth agor ym mis Chwefror 2012, fe gawson nhw wared ar y jiwcbocs, teledu Sky, y bwrdd pŵl a’r bwrdd darts.

“Y cyfan sydd gynnoch chi ydi’r cynnyrch, y staff a’ch gilydd,” meddai Jonathan Hughes. “Ond mae o’r math o le y gall unrhyw un ddod i mewn a chael sgwrs, os ydyn nhw eisio hynny.

“Mae o hefyd y math o le y gallwch chi ddod i mewn, prynu Coke a darllen y papur trwy’r dydd heb deimlo dan bwysau. Ac mi all dynes ddod i mewn ar ei phen ei hun a theimlo’n gyfforddus.”

Er nad ydyn nhw’n gwneud prydau bwyd, mae’r dafarn yn cynnig snaciau go iawn – fel wyau wedi piclo, pasteiod porc gan Edwards Conwy a dewis gwahanol o gnau, creision a ffrwythau olewydd.

“Tafarn go iawn ydi hi,” meddai Jonathan Hughes. “Ond i bawb.”

  • Y bragdai eraill yn y bartneriaeth yw Nant, Purple Moose a Conwy.
  • Fe gafodd tafarn y Lansdowne yng Nghaerdydd glod am safon adnewyddu’r adeilad.