Fe ddylai cleifion gydag anghenion meddyliol a chorfforol gael eu hasesu am help ariannol yn ôl eu anghenion, yn hytrach na’r drefn ‘cyntaf i’r felin’ sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Dyna farn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, sydd wedi bod yn edrych ar y driniaeth mae dros 5,000 o gleifion yn ei dderbyn dan drefn Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd.

Wrth edrych ar y maes, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd – sef canllawiau Llywodraeth Cymru – yn anghyson ledled y wlad.

Daeth hi i’r amlwg hefyd bod diffyg dealltwriaeth ymysg y cyhoedd ynghylch pwy sy’n gymwys i gael cyllid a sut mae gwneud cais.

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus?

Mae Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd yn becyn gofal a chymorth sy’n cael ei ddarparu i fodloni holl anghenion unigolion sydd gydag anghenion yn ymwneud â gofal corfforol, meddyliol a phersonol.

Yn ôl byrddau iechyd Cymru, roedd dros 5,500 o bobol yn cael Gofal Iechyd Parhaus ddiwedd mis Mawrth 2012.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n benodol am yr effaith ar gleifion a’u teuluoedd yn sgîl yr oedi o ran gwneud penderfyniadau’n ymwneud â hawliadau am Ofal Iechyd Parhaus, ac yn galw am i geisiadau gael eu prosesu yn ôl amgylchiadau unigolion a’u teuluoedd, yn hytrach na’r system ‘cyntaf i’r felin’ sy’n cael ei gweithredu ar hyn o bryd.

Angen trefn sy’n gweithio

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae pobol sydd angen Gofal Iechyd Parhaus yn haeddu system sy’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan.

“Rydym eisiau mwy o wybodaeth ynghylch sut y bydd Gweinidogion yn gwella amseriad penderfyniadau, gwella cysondeb a sicrhau system deg lle y gall pobl gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt.”