Bydd 50 o swyddi yn cael eu creu wrth i berchennog BetFred a chwmni Conygard fuddsoddi £5miliwn i ddatblygu parc lorïau yng Nghaergybi ar Ynys Môn.

Mae Fred Done a chwmni buddsoddi Conygard am adeiladu’r safle naw acer a fydd yn rhoi lle i 200 o lorïau ym Mharc Cybi.

Y gobaith yw gorffen adeiladu’r parc erbyn canol 2014 a’i fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Road King – cwmni’r teulu Done – fydd yn cynnal y safle ac maen nhw hefyd yn rhedeg parc lorïau Hollies ar yr M6, y tu allan i Stafford.

Wylfa Newydd

Yn ogystal â gwneud y mwyaf o brysurdeb porthladd Caergybi, mae hi’n bosib y bydd y parc yn cael ei ddefnyddio yng nghyfnod adeiladu gorsaf bŵer Wylfa Newydd. Mae gan y fenter hefyd ganiatâd i adeiladu swyddfeydd ar safle cyfagos.

Dywedodd Fred Done: “Rwy’n gweld hyn fel cyfle i gydweithio hefo cwmni Conyguard yn y dyfodol.”

Ac mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart wedi dweud fod y datblygiad am roi hwb i’r economi:

“Ar y llwybr pwysig yma at neu o borthladd Caergybi, mae’r fenter yn hanfodol bwysig i ddatblygiad parc diwydiannol, Parc Cybi.”