Dinbych-y-Pysgod - un o'r prif drefi gwyliau
Fe allai patrwm datblygu twristiaeth yng Nghymru gael ei newid yn llwyr yn ystod y blynyddoedd nesa’,

Fe allai hynny gynnwys rhoi’r gorau i drefniadau rhanbarthol, neu eu preifateiddio, wrth i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar syniadau newydd.

Dewis arall yw cael gwared ar bartneriaethau rhanbarthol a thynnu’r cyfan i mewn i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd.

Cynyddu

Fe fydd y pwyslais ar gynnyrch o safon a “digwyddiadau eiconig”, gyda’r nod o gael cynnydd o 10% mewn twristiaeth erbyn 2020.

Ond, wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad, fe ddywedodd y Gweinidog tros yr Economi, Edwina Hart, fod cydweithio’n allweddol.

“Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn hanfodol i sicrhau llwyddiant,” meddai.

“Fydd dim modd cyflawni hynny oni bai bod y llywodraeth, y sector preifat a sefydliadau rhanddeiliaid eraill yn cydweithio ac yn rhannu’r un nod.”

Y drefn ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd, mae pedair partneriaeth ranbarthol yn derbyn £2.5 miliwn i hyrwyddo twristiaieth yn eu hardaloedd.

Mae gogledd Cymru’n cael traean o’r arian, y Canolbarth yn cael pumed rhan a’r De-orllewin a’r De-ddwyrain yn cael chwarter yr un.

Un o awgrymiadau’r ymgynghoriad yw fod yr arian yn cael  ei rannu’n fwy hyblyg.

Y dewisiadau

Mae’r Llywodraeth yn gofyn i’r diwydiant am eu barn am bum dewis:

  • Cadw pethau fel y maen nhw.
  • Preifateiddio’r drefn ranbarthol, trwy eu cynnig ar dendr.
  • Creu tîm cysylltu rhanbarthol o fewn Croeso Cymru yn y Llywodraeth.
  • Datblygu patrwm newydd sy’n cyd-daro â mentrau datblygu economaidd rhanbarthol newydd, gan dendro rhai gwasanaethau.
  • Cael gwared ar y drefn ranbarthol yn llwyr a chefnogi partneriaethau lleol.

Fe fydd yr ymgynghori’n dod i ben ym mis Chwefror.