Ffion Wyn Roberts
Fe fydd achos llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts yn dechrau heddiw.

Mae gweithiwr ffatri  54 oed, Iestyn Davies, wedi cael ei gyhuddo o ladd y ferch 22 oed ym Mhorthmadog ym mis Ebrill y llynedd.

Fe gafwyd corff y weithwraig ofal mewn ffos ar gyrion y dre’ ar ail benwythnos mis Ebrill y llynedd ac fe fu’r heddlu’n chwilio am y llofrudd am ddau fis.

Roedd Ffion Wyn Roberts wedi cael ei gweld ddiwetha’n yfed mewn tafarn yn Nhremadog gerllaw yn oriau mân bore Sadwrn, Ebrill 10.

Yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, fe fydd Iestyn Davies yn gwadu’r cyhuddiad. Mewn gwrandawiadau cynharach, fe ofynnodd am i’r achos gael ei gynnal yn Gymraeg.