David Cameron
Mae gwledydd y Gorllewin yn symud yn nes at ymyrryd yn filwrol yn Libya, er mwyn atal y Cyrnol Gaddafi rhag ymosod ar brotestwyr.

Fe awgrymodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, y gallen nhw hyd yn oed ddechrau rhoi arfau i’r gwrthwynebwyr.

Mae hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd i benaethiaid y lluoedd arfog baratoi cynlluniau i wahardd hedfan uwchben Libya – er mwyn rhwystro awyrennau a hofrenyddion Gaddafi.

Mae gwledydd eraill, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Ffrainc, yn cydweithio ar gynlluniau o’r fath ac mae’r Americaniaid wedi bod yn symud llongau ac awyrennau yn nes at Libya.

Ond dyw hi ddim yn ymddangos y bydd y Cyrnol yn gwrando ar y galwadau ar iddo fynd – fe ddywedodd wrth newyddiadurwyr neithiwr fod ei bobol yn ei garu ac mai pobol ar gyffuriau oedd yn protestio, dan ddylanwad Al Qaida.

Parod i ddefnyddio grym

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd angen penderfyniad gan y Cenhedloedd Unedig i sefydlu ardal dim-hedfan ond, yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe, fe ddywedodd David Cameron yn bendant bod y Llywodraeth yn ystyried defnyddio grym.

“Wrth gwrs rhaid i ni gadw at gyfraith ryngwladol, ond fy nadl i yw bod angen i ni wneud y paratoi a’r cynllunio’n awr achos does neb yn gwybod beth fydd y Cyrnol Gaddafi yn ei wneud i’w bobol ei hun,” meddai.