Wylfa, Ynys Mon
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu cytundeb a gafodd ei arwyddo heddiw rhwng Llywodraeth Prydain a Hitachi a Horizon hi gefnogi datblygiad pwerdy niwclear yn Wylfa, Ynys Môn.

Dywedodd David Jones bod y cytundeb yn arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth i ynni niwclear newydd.

Mae’r cytundeb yn gwarantu cyllid a chefnogaeth   ar gyfer y datblygiad, a fydd yn gorfod cael cymeradwyaeth y Llywodraeth.

Cafodd y cytundeb ei gyhoeddi fel rhan o gynllun isadeiledd Llywodraeth San Steffan, sy’n  werth £375 biliwn, ar gyfer prosiectau adeiladu mawr hyd at 2030.

Dywedodd David Jones: “Yn dilyn ein cyhoeddiad ym mis Hydref am Hinkley Point, mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ymrwymiad parhaol y Llywodraeth i ynni niwclear newydd yn y DU, a chefnogi buddsoddiad Hitachi yn Wylfa Newydd.

“Fe fydd y buddsoddiad yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru, yn enwedig Ynys Môn.”

Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngogledd Cymru hefyd wedi croesawu’r cytundeb heddiw.


Meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru. Mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi’i hymrwymo i ddod a buddsoddiad i’r DU ac rwyf wrth fy modd bod Wylfa B yn rhan fawr o’u cynlluniau.

“Mae miloedd o swyddi ar yr ynys yn ddibynnol ar ddyfodol y pwerdy.

“Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda’r Llywodraeth Glymblaid er mwyn sicrhau bod busnesau lleol ar draws gogledd Cymru yn elw o’r buddsoddiad sylweddol yma.”