Cefin Roberts
Fe fydd y Theatr Genedlaethol yn cyhoeddi pwy yw ei Chyfarwyddwr Artistig newydd fory.

Mae llefarydd wedi cadarnhau eu bod wrthi’n trafod manylion ac y bydd datganiad yn cael ei wneud yn ystod y dydd.

Mae actorion a chefnogwyr theatr wedi bod yn feirniadol o’r oedi, gyda’r Cyfarwyddwr cynta’, Cefin Roberts, wedi ymddiswyddo ers blwyddyn.

Mae nifer o enwau wedi cael eu crybwyll ynglŷn â’r swydd ond doedd y Theatr ddim yn fodlon dweud pwy oedd yn cael ei ystyried.

Un o’r ffefrynnau ymlaen llaw oedd Arwel Gruffydd, yr actor sydd wedi troi hefyd at gyfarwyddo a sgrifennu. Mae wedi bod yn gweithio gyda Theatr y Sherman ac fe gafodd ganmoliaeth fawr am ei gynhyrchiad o Llwyth.