Colin Firth (CCA 3.0)
Yn ôl y disgwyl, ffilm The King’s Speech oedd prif enillydd seremoni’r Oscars neithiwr wrth gipio pedair gwobr. Roedd yna wobr hefyd i actor o Gymru.
Colin Firth, seren King’s Speech , oedd enillydd Oscar yr Actor Gorau am ei bortread o’r Brenin George VI a’i atal dweud.
Wrth dderbyn y wobr, fe awgrymodd wrth y gynulleidfa mai dyma binacl ei yrfa a’i fod yn teimlo awydd i ddawnsio.
Fe enillodd The King’s Speech y wobr hefyd am y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau a’r Sgript Gwreiddiol gorau.
Roedd yr awdur, David Seidler, yn diodde’ o atal dweud ei hun ac fe ddywedodd bod y ffilm wedi rhoi llais i bawb arall fel ef.
Christian Bale, a anwyd yn Hwlffordd, oedd enillydd Oscar yr Actor Cynorthwyol Gorau, yr un wobr a enillodd Hugh Griffith fwy na 40 mlynedd yn ôl.
Fe gafodd Bale y wobr am ei ran yn actio hyfforddwr sy’n gaeth i gyffuriau yn y ffilm The Fighter.
Natalie Portman oedd enillydd gwobr yr Actores Orau am ei ran yn y ffilm am ddawnsio balé Black Swan.