Mae’r gyfres i blant meithrin Y Diwrnod Mawr ar wasanaeth Cyw S4C wedi ei henwebu am wobr yng nghategori plant Gwobrau Rhaglenni RTS.

Mae’r rhaglen wedi ei henwebu am y rhaglen sy’n dilyn stori Siôn Pyrs, bachgen pum mlwydd oed o Bentrefoelas.

Cynhyrchwyd y rhaglen gan Cynhyrchiadau Ceidiog ac fe’i darlledwyd fel rhan o wasanaeth meithrin S4C Cyw.

Mae Y Diwrnod Mawr yn dilyn 26 o blant – un ymhob rhaglen – ar ddiwrnod mawr yn eu bywydau.

Mae’r gyfres, y rhaglenni dogfen cyntaf erioed i blant meithrin, eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol gydag enwebiadau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, BAFTA Plant UK a Rose d’Or.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 15 Mawrth yng ngwesty’r Grosvenor House, Llundain.

Oen

Mae’r rhaglen sydd wedi ei enwebu yn dilyn Siôn Pyrs wrth iddo baratoi i werthu ei oen, John Pari, ym marchnad Rhuthun.

Mae rhaglenni eraill yn y gyfres yn cynnwys merch yn edrych ymlaen at groeswu ei mam adref ar ôl treulio amser fel nyrs gyda’r fyddin yn Afghanistan, a bachgen sydd wrth ei fodd yn go-cartio yn paratoi i gystadlu am y tro cyntaf.

“Mae’r enwebiad yma yn ychwanegu at y llu o anrhydeddau mae Y Diwrnod Mawr eisoes wedi ei derbyn ac yn profi fod cynlluniau S4C o ran buddsoddi ym myd teledu a gwasanaethau i blant yn allweddol ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r iaith a bywyd diwylliannol Cymru,” meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.

“Mae’n gydnabyddiaeth genedlaethol o’r hyn mae S4C a’r cynhyrchwyr yng Nghymru yn cyflawni ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o’r safon uchaf.”