Mike Phillips
Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi arwyddo cytundeb gyda’r clwb rygbi Ffrengig, Racing Metro, yn ôl adroddiadau’r BBC.

Bydd Mike Phillips yn ymuno gyda’i gyd-chwaraewyr o Gymru, Jamie Roberts a Dan Lydiate, yn y clwb.

Cafodd Phillips ei ddiswyddo gan ei hen glwb, Bayonne, ym mis Hydref ar ôl honiadau ei fod wedi dod i sesiwn hyfforddi dan ddylanwad alcohol.

Er hynny, chwaraeodd y maswr mewn tri allan o bedwar o gemau Cymru yng nghyfres yr Hydref gan gynnwys yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.