Brwydrodd Mochdre Sports yn ôl i sicrhau gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Llansannan ar brynhawn Sadwrn, ac amddifadu Tîm yr Wythnos golwg360 o’u trydedd fuddugoliaeth o’r bron.
Gyda hanes diweddar y canlyniadau rhwng y ddau dîm, a gyda Llansannan yn ail yn y tabl, nhw oedd y ffefrynnau cyn y gêm wrth iddyn nhw geisio cau’r bwlch ar Lanefydd ar y brig.
Ond Mochdre aeth ar y blaen, diolch i gôl yn y pum munud cyntaf gan yr ymosodwyr Jordan Phillips ar ôl croesiad o’r chwith, cyn i’r asgellwr Gari Evans unioni’r sgôr i Lansannan dair munud yn ddiweddarach ar ôl gwaith da lawr yr asgell dde.
Aeth Llansannan ar y blaen ar ôl 34 munud diolch i gôl gan y capten Josh Jones, wrth iddo ymateb gyntaf ar ôl peniad yn dilyn tafliad hir i mewn i’r cwrt cosbi i rwydo oddi ar y postyn.
Parhaodd y cyfleoedd i ddod i’r naill dîm yn ystod yr hanner cyntaf, gyda Llansannan yn taro’r trawst, ac ar yr egwyl mantais o 2-1 oedd ganddyn nhw.
Ond daeth Mochdre yn ôl yn yr ail hanner, a saith munud wedi i’r chwarae ailddechrau roedd Niall Owen wedi unioni’r sgôr i’w gwneud hi’n 2-2.
Fe gafwyd cyfle arall i Fochdre yn fuan wedyn, gyda’r bêl yn cael ei rhoi yng nghefn y rhwyd ond y gôl yn cael ei atal oherwydd bod pedwar chwaraewr yn camsefyll – er mawr ryddhad i Lansannan.
Ac felly yr arhosodd hi, gyda’r cae yn torri fyny a’r eilyddion yn dod i’r maes, a’r ddau dîm yn cael trafferth gyda chyfleoedd yn yr ail hanner.
Mae’r ddau dîm yn aros ble’r oedden nhw yn nhabl Prif Adran Cynghrair Dyffryn Clwyd a Chonwy ar ôl y canlyniad hwnnw, Llansannan yn ail a Mochdre’n chweched allan o’r un ar ddeg clwb.
Mae’n golygu fod Llansannan bellach un ar ddeg pwynt y tu ôl i Lanefydd sydd ar y brig ond wedi chwarae dwy gêm yn fwy, ar ôl iddyn nhw ennill 5-3 dros y penwythnos yn erbyn Hen Golwyn.
Dywedodd y rheolwr Aled Williams fod y canlyniad yn un “siomedig”, o ystyried fod Llanefydd wedi ennill hefyd, ond ei bod yn bwynt gwerthfawr beth bynnag o gofio fod Llansannan yn cael un o’u tymhorau gorau “ers blynyddoedd maith”.
Roedd hi hefyd yn siom i’r amddiffynnwr Arwyn Lloyd, a gafodd ei ddewis yn ‘Ffŵl y gêm’ gan seren y gêm Gari Evans, wedi iddo ‘floeddio’n ferchetaidd’ ar ôl derbyn tacl galed. Doedd esgus Arwyn Lloyd fod gan un o sanau Llansannan dyllau ynddi yn dilyn y dacl ddim yn tycio, a rhaid oedd iddo lowcio ei beint ar ddiwedd y gêm fel cosb!
Rhai o chwaraewyr Llansannan yn ymateb i’r canlyniad yn erbyn Mochdre – gan gynnwys cosb Arwyn Lloyd:
Bydd Llansannan yn herio Prestatyn Rovers gartref y penwythnos nesaf yn rownd gyntaf Prif Gwpan Normac Precision. Gallwch weld ein cyflwyniad ni o’r clwb, gan gynnwys clip fideo yn cyflwyno’r chwaraewyr ac yn eu holi ynglŷn â’r tîm yma.
Yn y cyfamser, os hoffech chi i’ch tîm gael sylw gan golwg360 fel ‘Tîm yr Wythnos’, cysylltwch â ni ar e-bost neu drwy ddefnyddio’r hashnod #timyrwythnos ar Twitter.
Tîm Llansannan:
Gethin Williams; Arwyn Lloyd (Dafydd Owen), Euros Lloyd, Gerallt Lyall, Steffan Tomos; Sam Tate (Sean Williams), Joe Maguire, Aled Williams; Ross Gilbert, Josh Jones, Gari Evans (Geraint Jones)
Eilyddion: Sean Williams, Geraint Jones, Dafydd Owen, Elgan Jones, Adam Gage