Aaron Ramsey
Aaron Ramsey fydd chwaraewr y flwyddyn “heb os” os yw’n parhau i wneud cystal ag y mae wedi’i wneud hyd yn hyn y tymor yma, yn ôl ei reolwr Arsene Wenger.

Dywedodd Wenger ar ôl gêm Arsenal ar y penwythnos, pan sgoriodd Ramsey ddwy yn erbyn ei gyn-glwb Caerdydd i sicrhau buddugoliaeth o 3-0, fod angen mwynhau ei berfformiadau tra’u bod yn parhau.

Mae’r Cymro eisoes wedi sgorio pymtheg gôl i’w glwb a’i wlad y tymor hwn ac wedi ennyn clod gan lawer am ei berfformiadau hynod y tymor yma, a’r gwelliant yn ei chwarae.

“Mae wedi bod yn wych hyd nes nawr,” meddai Wenger.

“Rydych chi wastad eisiau neidio i’r dyfodol ond mae’n rhaid mwynhau’r presennol.”

“Os yw’n parhau i chwarae fel yna, heb os [fe gaiff o Chwaraewr y Flwyddyn] ond rydyn ni ond traean o’r ffordd drwy’r tymor.”

“Peidiwch anghofio fod pawb yn ei gwestiynu flwyddyn yn ôl. Mae hynny’n dangos ei fod yn haeddu clod am hynny – ei fod wedi troi’r gornel ac yn gallu parhau i wella.”

Sgorio fel ymosodwr

Dywedodd golwr Arsenal Wojciech Szczesny fod yntau wedi synnu gyda pherfformiadau Ramsey y tymor hwn.

“Rydyn ni mor falch drosto. Ai fe yw’r gorau yn y gynghrair? Does dim ots gen i cyn belled â’i fod yn parhau i wneud hyn dros y tîm.”

“Dwi wedi synnu cymaint â phawb arall. Roedden ni wastad yn gwybod ei fod e’n medru chwarae’n dda ond i sgorio cymaint ag y mae wedi, byddai unrhyw ymosodwr yn falch o hynny.”

Saib dros y Dolig

Yn y cyfamser dywedodd Wenger wrth wefan y clwb ei fod yn disgwyl rhoi seibiant i Ramsey rywbryd dros gyfnod y Nadolig, gyda’r clwb yn wynebu chwe gêm yn ystod mis Rhagfyr.

“Mae’n rhaid i mi ei drin fel y chwaraewyr eraill a rhoi seibiant iddyn nhw pan maen nhw ei angen,” meddai. “

“Dwi ddim eisiau rhoi gormod o bwysau ar ei ysgwyddau ac mae gennym ni gêm sydd wedi’i selio ar chwarae tîm.”

Teyrnged i’r cefnogwyr

Talodd Wenger hefyd deyrnged i gefnogwyr Caerdydd am y ffordd y gwnaethon nhw drin Ramsey, ar ôl iddyn nhw’i gymeradwyo yn dilyn ei goliau. Ni wnaeth Ramsey ei hun ddangos unrhyw emosiwn wrth rwydo’r ddwy chwaith wrth beidio â dathlu’r un ohonynt.

“Dwi’n meddwl ei fod o’n hapus ei fod wedi ennill y gêm, ei fod wedi dod ’nôl [i Gaerdydd] a chwarae’n dda,” meddai Wenger. “Ond mae hefyd wedi dangos parch i Gymru ac mae gen i barch mawr tuag at dorf sydd yn gwerthfawrogi hynny.

“Rydych chi’n mynd i lawer o gemau a ddim yn gweld hynny’n aml. Y dorf oedd yn haeddu bod yn seren y gêm.”