Lee Byrne
Wrth i Gymru golli i Awstralia mewn clasur o gêm brynhawn Sadwrn, roedd yna ambell un o’r Cymry eisoes wedi dychwelyd i’w clybiau gyda’r ornest honno yn erbyn y Wallabies yn disgyn y tu allan i’r ffenestr ryngwladol swyddogol.

Er bod rhai o’r Cymry oddi cartref, gan gynnwys George North a Dan Lydiate, wedi cael aros gyda charfan Cymru, roedd eraill wedi gorfod dychwelyd i Ffrainc a Lloegr yn unol â’u cytundebau – ac wrth gwrs, roedd rhai nad oedd wedi bod yng ngharfan Cymru o gwbl.

Dau o’r rhai amlycaf oedd James Hook a Lee Byrne – y ddau wedi’u henwi yn gefnwyr dros eu timau wrth i Perpignan herio Clermont nos Wener, gyda Luke Charteris hefyd yn dechrau i’r Catalanwyr gyda Hook.

Parhaodd Hook a’i ddyletswyddau cicio, gyda dau drosiad llwyddiannus o gais cosb ac un gan Sofiane Guitoune yn ogystal â thair cic gosb, ond doedd ddim yn ddigon wrth i Clermont sgubo i fuddugoliaeth oddi cartref o 30-23.

Perpignan gafodd y gorau o’r hanner cyntaf, gan arwain 16-10 ar yr egwyl – ar ôl cael cais arall wedi’i atal yn ddadleuol oherwydd bod pas derfynol Hook i Wandile Mjekevu wedi’i ddyfarnu i fod ymlaen.

Ond fe ddaeth yr eilydd Brock James ymlaen a chreu’r cais tyngedfennol buddugol i Julien Malzieu, a sicrhau mai Byrne a Clermont oedd yn dathlu ar y chwib olaf.

Colli oedd hanes yr unig Gymry eraill yn Ffrainc dros y penwythnos wrth i Biarritz gael eu trechu gan Boredaux o 15-22, gydag Aled Brew yn chwarae gêm lawn ar yr asgell a Ben Broster hefyd yn gwneud ymddangosiad oddi ar y fainc.

Prin oedd ymddangosiadau’r Cymry yng Nghynghrair Aviva Lloegr hefyd, gyda lle ar y fainc Caerfaddon yn unig i Paul James wrth iddo ef ddychwelyd o ddyletswydd ryngwladol i weld ei dîm yn trechu Caerwysg 21-16 – ond o leiaf roedd Martin Roberts yn cadw cwmni iddo yno.

Phil Dollman oedd yr unig Gymro ymysg y gwrthwynebwyr, gan ddechrau fel canolwr unwaith yn rhagor.

Dwayne Peel i Sale, Ian Gough i Wyddelod Llundain, a Jonathan Thomas i Gaerwrangon oedd yr unig rai eraill i ddechrau dros eu clybiau, gyda phob un ohonyn nhw’n colli.

Seren yr wythnos: Lee Byrne – ei dîm wedi dod i’r brig yn erbyn Hook a’i griw.

Siom yr wythnos: Paul James – mae dyn yn amau efallai y byddai well ganddo gael herio Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm nag eistedd ar y fainc yng Nghaerfaddon.