Bale wedi'i blastro dros bapurau Sbaen
Rhwydodd Gareth Bale ei hat-tric gyntaf i Real Madrid dros y penwythnos wrth i’w dîm drechu Valladolid 4-0 – ac un ‘berffaith’ oedd hi hefyd.

Peniodd Bale y gyntaf toc wedi hanner awr i roi Real ar y blaen, cyn rhwydo dwy syml yn yr ail hanner, y gyntaf gyda’i droed dde a’r ail gyda’r chwith oddi wrth groesiadau Marcelo, i gwblhau’r hat-tric.

O bosib ei gyfraniad gorau i’r gêm fodd bynnag oedd y bas hyfryd a roddodd yn berffaith i ben Benzema ar gyfer ail gôl Madrid dair munud wedi ei gôl gyntaf – ac fe ddywedodd Bale ar ôl y gêm ei fod yn gobeithio gwella hyd yn oed yn fwy!

Cafodd seren arall Cymru benwythnos i’w gofio hefyd, wrth i Aaron Ramsey ac Arsenal deithio i herio Caerdydd a gadael y brifddinas gyda buddugoliaeth o 3-0.

Ramsey sgoriodd ddwy o’r rheiny, a hynny’n erbyn y clwb ble y dechreuodd ei yrfa, gan wyro peniad hyfryd heibio i Marshall o groesiad Özil ar gyfer y gyntaf, cyn rhwydo’i ail gydag ergyd gref yn y munud olaf.

Ond doedd dim drwgdeimlad rhwng Ramsey a chefnogwyr y Gleision o gwbl. Fe gododd rhannau o’r stadiwm ar eu traed i’w gymeradwyo ar ôl ei ddwy gôl, yn ogystal ag ymuno wrth i gefnogwyr Arsenal ganu’i enw. Ni ddathlodd Ramsey yr un o’i goliau o gwbl, a rhoi’i ddwylo ar ei ben – symudiad yr ‘Ayatollah’ sy’n boblogaidd gyda chefnogwyr Caerdydd – i’w cydnabod.

Doedd hi ddim yn benwythnos cystal i Gymry eraill yr Uwch Gynghrair. Ben Davies ac Ashley Williams oedd yn yr amddiffyn i Abertawe wrth iddyn nhw golli’n drwm hefyd o 3-0 yn erbyn Man City, gyda’r un ohonynt yn edrych yn rhy gyfforddus.

Yr amddiffynwyr Danny Gabbidon a James Collins, a’r golwr Boaz Myhill, oedd yr unig rai eraill i ddechrau i’w timau, gyda Gabbidon yn colli 1-0 i Norwich gyda Crystal Palace, a Collins yn rhan o dîm West Ham a enillodd o 3-0 yn erbyn Fulham. Gwnaeth Myhill gamgymeriad am gôl gyntaf Newcastle wrth iddyn nhw drechu West Brom 2-1.

Cafwyd ymddangosiad byr i Jonathan Williams wrth iddo ddychwelyd o’i anaf, ond lle ar y fainc yn unig oedd i Joe Allen, Jack Collison, Neil Taylor a Craig Bellamy.

Cafodd Joe Ledley brynhawn mwy buddiol yn yr Alban gyda Celtic, wrth iddyn nhw chwalu Hearts 7-0 yng Nghwpan yr Alban, gyda Ledley’n rhwydo un a chreu un arall i Scott Brown ar ôl i’w ergyd yntau daro’r postyn.

Doedd hi ddim yn benwythnos gwych i Gymry’r Bencampwriaeth, gydag ond Andrew Crofts, Sam Vokes, Rhoys Wiggins a Joel Lynch yn chwarae gemau llawn, a Simon Church a Hal Robson-Kanu’n chwarae 69 munud yr un, gyda Steve Morison yn dod oddi ar y fainc am hanner. Byddai Chris Gunter wedi cael gêm lawn hefyd oni bai am ei ail gerdyn melyn a’i yrrodd am gawod gynnar yn hwyr yn y gêm.

Roedd Wayne Hennessey nôl gyda Wolves y penwythnos yma ar ôl bod ar fenthyg gyda Yeovil, ond lle ar y fainc yn unig oedd iddo yn anffodus wrth ddychwelyd. Chwaraeodd ei gyd-Gymry Sam Ricketts a Dave Edwards gemau llawn, gyda’r ymosodwr ifanc Jake Cassidy yn ymddangos oddi ar y fainc hefyd.

Seren yr wythnos: Gareth Bale – trwch blewyn rhyngddo fo a Ramsey, ond hat-tric cyntaf i’w glwb newydd, a honno’n un ‘berffaith’ hefyd, yn ddigon.

Siom yr wythnos: Wayne Hennessey – modd dadlau Gunter efallai, ond enillodd ei dîm yn y diwedd. Hennessey wedi’i alw nôl o fod yn ddewis cyntaf yn y Bencampwriaeth i le ar y fainc yng Nghynghrair Un – Wolves yn gwastraffu talent.