Mae’r heddlu wedi enwi dynes 39 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn.
Fe fu farw Joanne Lisa Hill, o ardal yr Wyddgrug, ar yr A5118 yn Padeswood, ger Bwcle.
Cafodd dyn 37 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ac mae o wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio.
Roedd dau gerbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad am 8.20pm – un Volvo arian ac un Vauxhall Corsa coch.
Roedd Joanne Hill yn deithiwr yn un o’r cerbydau.
Mae’r heddlu yn galw ar lygaid dystion i gysylltu â nhw. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101.