Senedd Cymru
Mae hanesydd o Gymru wedi dadlau na ddylai’r refferendwm ar ragor o ddatganoli fod wedi ei threfnu o gwbl.
Fe fydd pobol Cymru yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn pwerau deddfu pellach i’r Cynulliad mewn refferendwm ddydd Iau.
Dywedodd Martin Johnes o Brifysgol Abertawe heddiw ei fod yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ ond yn pryderu mai nifer isel iawn fydd yn trafferthu pleidleisio.
Mewn darn barn ym mhapur newydd y Western Mail dywed yr academydd, awdur llyfr Wales Since 1939, na ddylai’r cyhoedd orfod pleidleisio ar fater sy’n “fanylyn technegol”.
“Mae’n bwysig peidio gor-ddefnyddio refferenda, a’u defnyddio ar faterion sy’n ddigon arwyddocaol i ddenu nifer uchel o bobol i bleidleisio yn unig,” meddai.
“Dyw’r bleidlais yma ddim yn fater o’r fath… doedd y manylyn technegol y bydd pobol yn pleidleisio drosto ar 3 Mawrth byth yn mynd i gydio yn niddordeb y cyhoedd.
“Fe fydd nifer isel y pleidleiswyr yn gwneud drwg i ddatganoli, beth bynnag y canlyniad. Fe fydd nifer yn tanseilio datganoli a’r cyfreithiau y mae’r Cynulliad yn eu creu yn y dyfodol.”