Mae mudiad Gwir Gymru yn anhapus ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod arweinwyr Catholig wedi darllen neges ar ddiwedd yr offeren yn annog pobol i bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm ddydd Iau.
Doedd y neges oedd wedi ei ddosbarthu gan esgobion i eglwysi ar draws Cymru ddim yn dweud wrth bobol sut i bleidleisio ond bod arweinwyr yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn cefnogi pleidlais ‘Ie’.
“Dydyn ni arweinwyr Esgobaethau Catholig Cymru ddim yn argymell sut i bleidleisio yn y refferendwm,” meddai’r neges.
“Serch hynny rydyn ni ar y cyfan yn cefnogi gwella sut y mae’r Cynulliad yn gweithredu ac yn cyfeirio at y ffaith fod y newid yn cyd-fynd ag egwyddorion dysgeidiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig.”
Ond dywedodd y mudiad sy’n ymgyrch yn erbyn pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm fod y neges yn “amhriodol”.
“Mae’n amhriodol eu bod nhw’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’ ac rydw i’n credu nad ydi barn yr esgobion yn cyd-fynd â barn y cyhoedd sy’n mynd i’w eglwysi,” meddai llefarydd ar ran Gwir Gymru.