Nick Bourne
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud heddiw ei fod yn difaru peidio cefnogi pleidlais ‘Ie’ o blaid creu Cynulliad i Gymru yn 1997.
Nick Bourne oedd un o’r pleidleiswyr ‘Na’ mwyaf blaenllaw cyn refferendwm 1997, ond dywedodd bore ma ei fod bellach yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ddydd Iau.
“Fe bleidleisiais i ‘Na’ oherwydd roeddwn i’n credu y byddai’r Cynulliad yn creu rhaniadau ac yn gwanhau’r Deyrnas Unedig,” meddai Mr Bourne.
“Roeddwn i’n anghywir am hynny – dyw datganoli ddim wedi gwahanu’r Deyrnas Unedig a doedd dim rhagor o bobl eisiau annibyniaeth ar ôl datganoli.
“Rwy’n credu bod y Cynulliad yn cynnig fforwm agored a hygyrch i bobl Cymru ac yn dod a phenderfyniadau yn nes at bobl.
“Mae hi ond yn iawn y dylen ni nawr fedru gwneud deddfau yng Nghymru ar faterion sydd ddim ond yn effeithio ar bobl Cymru, a dyna pam fyddai i’n pleidleisio ‘Ie’ y tro yma.”
Newid meddwl
Roedd Nick Bourne ymysg sawl un arall fu’n edifarhau mewn cynhadledd i’r wasg gan yr Ymgyrch Ie bore ma.
Dywedodd yr ymgyrch fod y gynhadledd yn gyfle i gyn-bleidleiswyr ‘Na’ egluro pam eu bod wedi newid eu meddwl am ddatganoli a pam eu bod yn credu y dylai pawb bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm yr wythnos hon.
Mae Adrian Curtis yn rheoli Banc Bwyd yn Nglyn Ebwy a doedd e ddim wedi’i argyhoeddi am greu Cynulliad Cenedlaethol yn 1997, ond dywedodd bod datganoli yng Nghymru bellach wedi profi ei werth.
“Roeddwn i’n amheus a fyddai Cynulliad yn gallu dod a budd gwirioneddol i Gymru ac a fyddai datganoli yn credu mwy o fiwrocratiaeth na chanlyniadau,” meddai.
“Erbyn hyn rydw i’n credu bod datganoli yn gweithio ac yn dod a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn nes ar y bobl hynny sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau.
“Yr hyn sydd ei angen arnon ni nawr yw sicrhau bod y Cynulliad yn gallu gweithredu mor effeithiol â phosibl er mwyn i Gymru fedru elwa o’r budd ddaw wrth ddatganoli.”