Kirsty Williams - cynnig pecyn o hawliau cymunedol
Os bydd pobol Cymru’n dweud ‘Ie’ ddydd Iau, fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig mesur newydd i roi hawliau i gymunedau a chryfhau cynghorau bro.
Fe fyddai’n rhoi’r cyfle i bobol leol benderfynu ar niferoedd tai haf ac yn rhoi hawl i gynghorau bro gynnal gwasanaethau fel llyfrgelloedd.
Hwn fyddai’r pecyn mwya’ o “ddatganoli go iawn” yn hanes y Cynulliad, meddai Kirsty Williams, gan gyhuddo Llywodraeth Llafur a Phlaid Cymru o dynnu gormod o rym oddi ar gymunedau.
“Dw i’n cynnig Mesur Hawliau Cymunedol i wneud yn siŵr bod pob cymuned yng Nghymru’n cael y grym i benderfynu sut y bydd yn edrych yn y dyfodol,” meddai.
Y cynigion
Dyma’r prif benawdau o’r Mesur Hawliau:
- Creu categori cynllunio ar wahân ar gyfer tai haf a thai lle mae nifer o gartrefi, er mwyn i bobol leol allu penderfynu faint ohonyn nhw i’w cael.
- Creu pŵer i warchod adeiladau sydd o bwys cymunedol neu ddiwylliannol – mae Kirsty Williams yn enwi tafarn y Vulcan yng nghanol Caerdydd, sydd mewn peryg o gael ei dymchwel.
- Creu categori rhestru ar gyfer lleiniau glas, er mwyn eu gwarchod, a chreu grym i atal datblygu ar erddi.
- Cryfhau cynghorau bro, gan gynnwys rhoi’r hawl iddyn nhw wneud cais i gynnal gwasanaethau sy’n cael eu cau gan gynghorau sir – mae’n enwi llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
- Ei gwneud hi’n haws i gynghorau bro sefydlu mentrau tai a mentrau ynni ar raddfa fach.