Mae gweithiwr technoleg gwybodaeth o Gasnewydd yn ysu am gael gwerth £4 miliwn o arian digidol yn ôl, wedi iddo ei daflu i ffwrdd fel ‘sbwriel.
Mae’r arian digidol, sy’n cael ei alw’n bitcoins, yn cael ei storio mewn cof cyfrifiadur ac yn cael ei ddefnyddio i brynu nwyddau ar y we.
Fe wnaeth James Howells, 28, daflu cof ei gyfrifiadur i ffwrdd drwy gamgymeriad ac mae’r 7,500 o bitcoins – gwerth £4.6 miliwn – yn debygol o fod mewn tomen sbwriel enfawr yng Nghasnewydd erbyn hyn.
Casglu
Fe ddechreuodd James Howells gasglu’r arian digidol ar y we ym mis Ionawr 2009. Wedi i’w gyfrifiadur dorri yn ddiweddarach y flwyddyn honno, roedd ganddo gronfa werthfawr o bitcoins.
Ond fe wnaeth gadw cof y cyfrifiadur yn saff mewn drôr, nes iddo symud tŷ yn 2013 a digwydd ei daflu i’r bin.
“Es i chwilio amdano yn y safle sbwriel, ond roedd o’r un maint a chae pêl-droed – doedd gen i ddim gobaith,” meddai James Howells wrth Wales Online.
Mae un bitcoin yn werth £614 erbyn hyn, sydd bron i bum gwaith yn fwy na’i werth yn ddiweddarach yn y mis.