Mae Cyngor Sir Bro Morgannwg wedi cyhoeddi cyngor i drigolion lleol yn dilyn tân ym Mharc Busnes y Fro yn Llandw ddydd Mawrth.

Mae’r Gwasanaeth Tân yn parhau i fod ar y safle ac roedd tua 80 o ddiffoddwyr tân yn ceisio rheoli’r fflamau ddydd Mawrth, wedi i’r tân gychwyn mewn uned ailgylchu am bump o’r gloch y bore.

Yn ôl datganiad gan Gyngor Sir Bro Morgannwg, mae’r deunyddiau sy’n llosgi yn cynnwys deunyddiau ailgylchu fel “papur a phlastig – ond dim gwastraff peryglus”.

Ond mae’r cyngor lleol yn awgrymu y dylai trigolion lleol ddilyn arferion hylendid da fel golchi dwylo’n drylwyr cyn paratoi a bwyta bwyd a gwneud yn siŵr bod llestri ac arwynebau paratoi bwyd wedi eu glanhau yn  drwyadl.

Y rheswm am hyn yw bod posibilrwydd bod darnau bach o ludw yn disgyn yn yr ardal.

Dyma’r cyngor a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Bro Morgannwg:

• Dylai pobl sydd â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes, megis asthma, gario eu meddyginiaeth gyda nhw a’u defnyddio yn ôl yr angen.

• Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw broblemau meddygol parhaus ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu yn y ffordd arferol.

• Mae’r mwg o’r tân yn codi ar i fyny ac yn gwasgaru, does dim tystiolaeth ar hyn o bryd ei fod yn  aros ar lefel y ddaear.

• Gall darnau bach o ludw ddisgyn ond mae’r risg i iechyd gan ddeunydd o’r fath yn isel iawn.

• Does dim disgwyl i bobl sy’n byw yn yr ardal gyfagos fod mewn perygl, ond os yw’r mwg yn amlwg ar lefel y ddaear, mae pobl yn cael eu cynghori i aros yn eu tai, cau drysau a ffenestri a gwrando am unrhyw negeseuon yn y cyfryngau.

Hwn oedd yr ail dân mewn mis ar y stad, wedi i adeilad Siteserv gerllaw gael ei ddifrodi gan dân.