Ar ôl i ymchwil ddangos fod gan blant o gefndiroedd difreintiedig broblemau cyfathrebu, mae Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflogi mwy o therapyddion iaith.
Yn ôl y coleg, gall problemau cyfathrebu effeithio tua hanner y plant sy’n dod o gefndiroedd tlawd ar hyd eu bywydau, a’u hatal rhag cyflawni eu llawn botensial.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun sy’n anelu at ddarparu cymorth i 18,000 o blant difreintiedig Cymru, ond mae’n ymddangos mai dim ond 13 therapydd iaith llawn amser sy’n gweithio o fewn y cynllun.
Dechrau’n Deg
Mae Glyn Davies, Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn, wedi cefnogi’r ymgyrch gan ddweud fod angen gweithredu pan mae’r plant yn ifanc iawn.
“Gall problemau cyfathrebu arwain at gyrhaeddiad addysg isel, problemau ymddygiad a risg uwch o droseddu, felly mae’n rhaid gweithredu’n fuan er mwyn rhoi cyfle teg iddyn nhw,” meddai.
Mae’r cynllun Dechrau’n Deg gan y Llywodraeth yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, sydd hefo plant o dan bedair oed.
Bydd £55 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r cynllun er mwyn dyblu nifer y plant a all dderbyn therapi iaith. Bydd hyn yn golygu fod 18,000 o blant yn cael cymorth.