Mae un allan o bump o bobol ifanc o dan 20 oed yn byw mewn tlodi, yn ôl arolwg sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.
Cyhoeddwyd yr arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dangos fod un allan o wyth o bobol ifanc yn Sir Fynwy a Phowys yn dlawd, ac un o bob pedwar yn y Cymoedd yn ne Cymru. Mae 45% o’r cartrefi sy’n cael eu cyfri fel rhai tlawd yn magu plant.
Mae dros 45% o bobol ifanc 16-24 oed hefyd yn yfed gormod o alcohol ac roedd 10% o blant 11-16 oed wedi cymryd cyffuriau’r flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Dr Judith Greenacre, cyfarwyddwr gwybodaeth iechyd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r arolwg yn ddigon i godi arswyd. Mae aelwyd sefydlog a mynediad at addysg yn holl bwysig i ansawdd bywyd a dyfodol plentyn.”
Bwyta’n iach
Dangosodd yr arolwg hefyd mai dim ond 30% o blant rhwng 11-16 oed yng Nghymru sy’n bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.
A bod un allan o 18 o fabanod sy’n cael eu geni yng Nghymru o dan eu pwysau – rhywbeth sy’n cael ei gysylltu hefo risg o ddatblygu afiechydon cronig.
Yn ôl Dr Mair Parry, y swyddog dros Gymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant:
“Mae pob plentyn yn haeddu’r un gofal iechyd. Rydym yn gwybod fod plant tlawd yn dueddol o ddioddef o iechyd gwael ac mae’n rhaid i ni gau’r bwlch yma.”