Mae dau glaf arall wedi cael prawf positif am Hepatitis C wedi iddyn nhw fod mewn cysylltiad â gweithiwr iechyd.

Daeth hi i’r amlwg yn gynharach eleni bod cyn weithiwr gofal iechyd mewn  obstetreg a gynaecoleg wedi cael diagnosis o Hepatitis C a bod y person hwnnw, heb yn wybod iddynt, wedi trosglwyddo’r firws i ddau glaf rhwng mis Mai 1984 a mis Gorffennaf 2003.

Roedd y person yn gweithio yn bennaf yn Ysbyty Glowyr Ardal Caerffili ond gweithiodd hefyd am gyfnod byr yn  hen Ysbyty Dwyrain Morgannwg ym Mhentre’r Eglwys ger Pontypridd ac yn Ysbyty Wrecsam Maelor, Wrecsam.

Profi dros 3,000

Mae mwy na 3,300 o gleifion wedi cael eu profi am Hepatitis C yn sgil y newydd ac mae dau glaf arall wedi profi’n bositif am Hepatitis C.

Meddai Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Mae’r cyfanswm o bedair merch a gafodd drosglwyddiad Hepatitis C gan y cyn weithiwr gofal iechyd yn cael cynnig gofal a chefnogaeth gan ein gwasanaethau arbenigol.

“Rydym yn deall ei bod yn amser anodd a gofidus iddynt a gofynnwn i bawb barchu’u hangen am gyfrinachedd.”

Cynhaliwyd y profion yn bennaf yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac roedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gwnaed oddeutu 3,100 prawf yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan , gwnaed 56 prawf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 155 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

Cyfle i roi gwaed eto

O ran y merched a gafodd lythyr ond sydd heb ddod i gael prawf gwaed eto, mae’r cyfle’n dal i fod iddyn nhw wneud hynny er i’r clinig arbenigol olaf gau ar 16 Tachwedd.

Meddai Dr Richardson: “Rydym yn deall ei fod wedi bod yn amser gofidus i gleifion ond hoffwn annog pob merch a gafodd lythyr ond sydd heb gael prawf gwaed eto i gysylltu â’u meddyg teulu er mwyn trefnu prawf gwaed syml.

“Dymunwn dalu teyrnged i’r holl staff a weithiodd yn galed i ddarparu gwasanaeth gofal o ansawdd ac arweiniad a chefnogaeth ar gyfer ein cleifion saith niwrnod yr wythnos er mwyn eu helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Cyn gweithio yng Nghymru, bu’r cyn weithiwr gofal iechyd yn gweithio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Meddai Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod  Byrddau Iechyd Cymru wedi gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr ledled y DU i sicrhau eu bod yn cydlynu eu hymateb ar gyfer cleifion.