Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae dyn a gafodd ei garcharu ar gam am 11 mlynedd wedi methu yn ei ymgais i wrthdroi penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn swyddog yr heddlu oedd yn ymwneud yn ei achos.

Cafwyd Michael O’Brien, ynghyd â Darren Hall ac Ellis Sherwood, yn euog o lofruddio gwerthwr papurau newydd o Gaerdydd Phillip Saunders yn 1987.

Yn 1999, cafodd euogfarnau’r tri eu gwyrdroi yn y Llys Apêl wedi amheuaeth  am dystiolaeth y Ditectif Arolygydd Stuart Lewis, a oedd wedi cael ei glywed yn yr achos gwreiddiol.

Yn 2006, derbyniodd Michael O’Brien £300,000 gan Heddlu De Cymru  mewn setliad wedi iddo fygwth mynd a nhw i’r llys am erlyniad maleisus.

Ond y llynedd, yn dilyn ymchwiliad newydd gan yr heddlu ac adolygiad o’r achos gan Wasanaeth Erlyn y Goron, penderfynwyd nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn Stuart  Lewis.

Fis diwethaf, fe wnaeth Michael O’Brian herio’r penderfyniad yna yn yr Uchel Lys ond heddiw cafodd dyfarniad yr Arglwydd Brif Ustus, Yr Arglwydd Thomas, ei gyhoeddi oedd yn dweud bod penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gywir.

Roedd Phillip Saunders yn dychwelyd adref i’w gartref yn Nhreganna yng Nghaerdydd ar Hydref 12 1987 pan wnaeth rhywrai ymosod arno. Bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.