Stan Stennett Llun: Gwefan Stan Stennett
Mae’r digrifwr a pherfformiwr o Gaerdydd Stan Stennett wedi marw yn 88 oed.

Cadarnhaodd ei deulu fod Stan Stennett wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd nos Lun, ar ôl bod yn cael trafferthion ers cael strôc dair blynedd yn ôl.

Roedd Stan Stennett, a anwyd yng Nghaerdydd, yn gweithio yn y diwydiant adloniant am dros 60 mlynedd, ac yn adnabyddus am ei dalent cerddorol yn ogystal â’i ddigrifwch, gan barhau i berfformio pantomeim nes yr oedd yn ei wythdegau.

Ymddangosodd yn Coronation Street a Crossroads yn ystod ei yrfa ar y llwyfan ac ar y sgrin, gan gynnwys chwarae mewn band ar lwyfan gyda Bob Hope, ac ymddangos mewn rhaglenni megis Welsh Rarebit a Black and White Minstrel Show.

Roedd Stennett yn rheolwr ar Theatr Roses yn Tewkesbury, Sir Gaerloyw, pan fu farw’i ffrind Eric Morecambe o drawiad ar y galon wedi iddo ddod oddi ar y llwyfan.

Dywedodd ei fab, Ceri Stennett, fod ei dad wedi dod a hapusrwydd i nifer o bobl.

“Roedd yn un o’r bobl yna a allai roi hapusrwydd i bobl drwy’r wlad – nid yn unig yng Nghymru ond tu hwnt hefyd.

“Wnaeth o fyth golli cyswllt gyda’i wreiddiau yng Nghymru a Chaerdydd oedd ei gartref.”

‘Cawr o ddyn’

Dywedodd y darlledwr Chris Needs, oedd wedi gweithio gyda Stan Stennett yn y gorffennol ac a oedd yn ffrind da iddo, ei fod yn golled enfawr i’r diwydiant.

“Dwi’n drist tu hwnt, mae’n ergyd sylweddol,” meddai Chris Needs wrth Golwg360. “Mae’r diwydiant wedi colli cawr o ddyn.

“Fe welais i e diwethaf ychydig fisoedd yn ôl, ond roedden ni’n siarad ar y ffôn yn aml. Unrhyw bryd fyddwn i angen help gyda sioe fe fyddai e yno.

“Roedd e’n wych gyda phlant. Dwi’n cofio’r cyngor a roddodd e unwaith i rieni, y cyngor gore dwi ‘di glywed erioed: ‘Cadwch eich plant yn blant mor hir ac y gallwch chi.’

“Cawson ni gymaint o hwyl dros y blynydde, dwi’n dorcalonnus o glywed y newyddion.”