Gai Toms
Yn dilyn trychineb teiffŵn Haiyan yn y Philippines, mae Dilwyn Llwyd, un o drefnwyr Gŵyl Gardd Goll, wedi penderfynu trefnu gig i gaslgu arain at yr achos.

Bydd y gig yn digwydd nos ‘fory am wyth o’r gloch yn nghafarn Rascals ym Mangor Uchaf.

Bydd artistiaid fel Radio Rhydd, Gai Toms, Twmffat (band Ceri Anweledig a Phil Gwibdaith Hen Frân) a Ceffyla Lliwgar yn cymryd rhan gyda bob elw yn mynd i roi cymorth i bobol y Philipinau.

Mae ticedi yn £7 ac ar gael o Palas Print, Bangor a Chaernarfon.