Mi fydd cwmni Theatr na nÓg o Gastell-nedd yn perfformio’r ddrama You Should Ask Wallace yn Asia y penwythnos nesaf.
Mae’r ddrama 45 munud yn olrhain hanes y naturiaethwr o Gymro Alfred Russel Wallace a wnaeth, yn ôl pob sôn, ddarganfod theori esblygiad a’i rhannu gyda Charles Darwin.
Mae’r cwmni wedi cael arian gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i’w pherfformio yn y Ganolfan Wyddonol yn Singapôr ddydd Sadwrn, Tachwedd 30 a Sul, Rhagfyr 1.
Dechreuodd Wallace ymddiddori mewn botaneg a hanes naturiol yn y cwm o gwmpas Castell Nedd, cyn teithio i’r Amazon ac yna i Ynysfor Malay, lle casglodd rywogaethau epiliog anghyfarwydd. Astudiodd darddiad y rhywogaethau a datblygu theori am eu hesblygliad. Ysgrifennodd wedyn at Darwin yn manylu ar ei ddamcaniaeth, ac arweiniodd hyn yn ei dro at gymell Darwin i gyflwyno ei ganfyddiadau a chyhoeddi The Origin of Species.
Er taw Wallace yw’r dyn a ysbrydolodd gariad David Attenborough at natur, mae’n dal yn gymharol anadnabyddus.
“Mae’r gydnabyddiaeth mae Wallace yn ei dderbyn yn Singapôr yn profi mwy am ei rinweddau unigryw na’r diffyg cydnabyddiaeth sy’n bodoli yng Nghymru a Phrydain,” meddai’r seren y cynhyrchiad, Ioan Hefin, sydd wedi perfformio gyda’r ddrama yn 2012 ac ar ddechrau’r flwyddyn.
“Dyn y bobl oedd Wallace. Er y byddwn wedi teithio i ben draw’r byd, mi fyddwn yn rhannu’r edmygedd am ddarganfyddiadau Wallace, ac mi fydd hynny yn ein clymu ac yn torri ar draws ein gwahaniaethau.”
Y cysylltiad â Malay a ddenodd sylw Daniel Tan Teck Meng, Uwch-Reolwr Arddangosfeydd y Ganolfan Wyddonol yn Singapôr at y ddrama, ar argymhelliad George Beccaloni, Curadur Cronfa Wallace yn Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain. Mae’r Amgueddfa wedi bod yn dathlu cyfraniad a hybu enw Wallace yn rhan o’i arddangosfeydd ‘Wallace 100’ eleni am ei bod hi’n ganmlwyddiant ers ei farw.
Fe fuodd y cwmni theatr, sydd wedi perfformio’r ddrama ers sawl blwyddyn bellach, yn ymweld â’r Amgueddfa yn gynharach eleni.
“Fe wnaeth Daniel ofyn am ddarllen y ddrama, gyda’r bwriad o’n cael ni i’w pherfformio yn rhan o arddangosfa i ddathlu can mlynedd ers marwolaeth Wallace,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Na N’Og, Geinor Styles.